Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 18 Ionawr 2017
Amser:
09.30 -
11.57
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/3953
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mark Reckless AC (Cadeirydd) Jayne Bryant AC Siân Gwenllian AC Huw Irranca-Davies AC David Melding AC Jenny Rathbone AC Simon Thomas AC |
Tystion: |
Peter Oates, Wales Air Quality Forum Isobel Moore, Cyfoeth Naturiol Cymru Claire Whitfield, Joint Nature Conservation Committee Paul Willis, Ricardo Energy Huw Brunt, Iechyd Cyhoeddus Cymru Joseph Carter, Wales Neurological Alliance |
Staff y Pwyllgor: |
Alun Davidson (Clerc) Louise Andrewartha (Dirprwy Glerc) Chloe Corbyn (Ymchwilydd) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 453KB) Gweld fel HTML (267KB)
1.1 Ni chafwyd ymddiheuriadau na datganiadau o fuddiant.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gadeirydd Fforwm Ansawdd Aer Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Ricardo Energy and Environment a'r Cydbwyllgor Gwarchod Natur ynghylch materion sy'n effeithio ar ansawdd aer yng Nghymru.
2.2 Dosbarthodd Mr Peter Oates gopi caled o ymateb Panel Arbenigol Llygredd Cymru Gyfan i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar reoli ansawdd aer.
2.3 Rhoddodd Mr Oates gopi i'r Pwyllgor o'r Asesiad o Effaith ar Iechyd ar gyfer y datblygiad ysbyty Gofal Critigol yn Nhorfaen.
3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghylch effaith ansawdd aer ar iechyd y cyhoedd yng Nghymru.
3.2 Cytunodd Mr Huw Brunt, o Iechyd Cyhoeddus Cymru, i roi copïau i'r Pwyllgor o'r adroddiadau y cyfeiriodd atynt yn ei dystiolaeth.
5.1 Yn unol â Rheol Sefydlog 17.42, penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer Eitem 6.
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
6.2 Cytunodd y Pwyllgor:
- ysgrifennu at Weinidogion perthnasol Cymru, Cyngor Sir Caerffili, Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan a Changhellor y Trysorlys i ofyn am ragor o wybodaeth mewn perthynas ag ansawdd aer yng Nghymru;
- paratoi adroddiad ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ohebiaeth uchod; a
- gofyn am drafodaeth lawn ar ansawdd aer yng Nghymru.